Rydym yn stociwyr poteli “FLO GAS” ac yn cynnig ystod eang o boteli nwy Propane a Bultane o wahanol faint, yn ogystal â photeli sy’n addas ar gyfer barbeciw.
Gellir prynu nwy o’r iard yng Ngharmel neu eu danfon a’u gosod gan ein staff profiadol.
Mae archebion nwy yn cael eu danfon ar ein rowndiau glo ac rydym bob amser yn anelu at ddanfon archebion ar y diwrnod neu’r diwrnod nesaf.
Mae Gwresogyddion Symudol, a ffitiadau a phartiau ar eu cyfer, bob amser mewn stoc.