Ni ydi’r stociwr glo mwyaf yng Ngwynedd ac mae gennym ddewis eang o danwydd glo sy’n addas ar gyfer pob lle tân a chyllideb.
Mae glo wedi ei fagio o flaen llaw naill ai mewn bagiau plastic “pre-pack” 10kg neu 20kg sydd wedi’i selio’n daclus, neu mewn sachau agored 50kg i’w gwagio wrth eu danfon.
Rydym yn gwerthu tri math gwahanol o lo cartref ar gyfer tanau agored.:
Darnau mawr o lo sy’n rhoi gwres da ac yn para’n hir. Yn addas ar gyfer tanau agored.
Glo o faint da yn rhoi gwres ardderchog gan gynhyrchu ychydig iawn o ludw. Ein glo cartref mwyaf poblogaidd.
Darnau bach o lo sy’n darparu gwres uchel ac ychydig iawn o ludw. Hawdd i’w danio.
Rydym yn gwerthu 7 math o danwydd Di-fŵg cymeradwy sy’n addas ar gyfer Stofiau Aml-Danwydd.
Glo siâp afreolaidd sgleiniog, tebyg o ran ei edrychiad i lo cartref, ac a gloddir yn Ne Cymru.
Delfrydol ar gyfer stofiau a boeleri ystafell, gan roi gwres uchel a gadael sinder y gellir ei losgi y diwrnod canlynol. Ardderchog am gadw tanau i fynd dros nos – mae cau’r ffliw yn gadael i’r tân fud-losgi.
.
Yn debyg i’r Anthracite Stovesse, ond yn fwy o ran maint. Defnyddir yn bennaf ar stofiau. Yn para’n hir.
Anthracite meddalach gyda fflam hyfryd, tebyg i lo agored. Yn llai costus nag Anthracite Stovesse ac Anthracite Mawr. Mae’n gadael sinder y gellir ei losgi’r diwrnod canlynol.
Ofoid, wedi’i wneud o lwch anthracite, ar gyfer gwresogyddion ystafell a stofiau. Gwres uchel ac yn llosgi i ludw.
Ofoid caletach gyda fflam hyfryd. Yn llosgi ar dymheredd uchel ac yn gadael ychydig iawn o ludw.
Ofoid mawr sy’n addas ar gyfer tanau agored a stofiau.
Ofoid called, llai o ran maint, sy’n addas ar gyfer stofiau a gwresogyddion ystafell.
Non-Approved Fuels suitable for Multi Fuel Stoves and Open Fires include:
Ein Ofoid mwyaf poblogaidd o bell ffordd, oherwydd ei wres, ei hyblygrwydd a’i gôst. Mae’n rhoi gwres uchel ac ychydig iawn o ludw. Ddim yn addas ar gyfer ardaloedd dan reolaeth mŵg.
Darnau mawr sy’n addas ar gyfer stofiau neu danau agored.
Cymysgedd o Anthracite Cymreig a Pet Coke, gan roi gwres uchel yn ogystal â phara’n hir. Gadael sinder.