GB Flag Wales Flag

About Us

Yn 1947, prynodd John Hughes rownd lo gan gymydog a chyfaill, Cadwaladr Hughes. ‘Roedd y busnes yn danfon glo o dŷ i dŷ ym mhentrefi Carmel, Fron, Rhosgadfan a Groeslon.

Roedd llygad busnes da gan John Hughes o’r dechrau un  a phan gychwynnodd a rei yrfa o ddreifio loriau yn danfon tywod a graean o chwareli lleol arferai blethu’r rownd lo o gwmpas ei waith . Yn ogystal â hyn, arferai logi ei lori dipio i’r Cyngor Sir. ‘Roedd ganddo hefyd fusnes tacsi bychan yn danfon cleifion i ysbytai a chlinigau.  Fel na bai hyn yn ddigon, ‘roedd o hefyd yn berchen ac yn rhentu ychydig o dir, ac arferai gael pleser yn cadw gwartheg.

Ymunodd ei fab, Arwyn â’r busnes ar ôl iddo adael yr ysgol, gan ganolbwyntio ar yr ochr lorïau.

Pan fu i John Hughes ymddeol yn 1976, gadawyd Arwyn a’i wraig Nesta i redeg y busnes nes i’w mab, Aled ymuno â nhw yn 1984.  Canolbwyntiodd Aled ar y busnes rowndiau glo.

Fodd bynnag, golygodd y costau  uchel o redeg busnes lorïau a’r tâl isel a gynigai’r chwareli, i’r partneriaid benderfynu rhoi’r gorau i’r ochr lorïau a chanolbwyntio’n unig ar y busnes glo.

Yn gyffredinol drwy’r wlad, mae yna ddirywiad yn y defnydd o lo i gynhesu tai, ond gan ein bod wedi prynu busnesi lleol, a chan fod cystadleuwyr wedi ymddeol, ac  yn fwy na dim gan ein bod wedi ymroi i waith caled, mae John Hughes a’i fab wedi parhau a thyfu i fod yn stociwr glo mwyaf yng Ngwynedd.

Heddiw, rydym yn danfon glo, nwy a logiau led led Gwynedd a Môn. Rydym yn cynnig gwasanaeth dibynadwy ac yn cadw dewis eang o lo ar gyfer pob math o le tân ac ar gyfer pob cyllideb.

Masnachwyr glo dibynadwy a chyflenwyr LPG wedi'u lleoli yng Ngharmel, ger Caernarfon.
Call us on 01286 882 160 or email us at johnhughescyf@gmail.com
Contact Us